Rhif y ddeiseb: P-06-1167

Teitl y ddeiseb: Cefnogwch fusnesau teithio a thwristiaeth Cymru

Geiriad y ddeiseb: Mae’r coronafeirws wedi effeithio’n sylweddol ar bob busnes ledled Cymru, ond mae wedi cael effaith ariannol enfawr ar y diwydiant teithio a thwristiaeth ers y dechrau.

O'r rheol 5 milltir wreiddiol, i gael caniatâd i fasnachu am 7 wythnos yn unig, a bellach mae cyfyngiadau teithio lleol wedi cael eu gosod eto ar draws rhannau helaeth o Gymru.

Mae'r diwydiant twristiaeth, yn enwedig gwyliau bysiau, yn mynd â phobl i lan y môr, i drefi ac i ddinasoedd, gan roi digonedd o arian i fusnesau lletygarwch a manwerthu lleol.

Ychydig iawn o arian gawson ni, ac ni fydd y cyhoeddiad diweddaraf ynghylch y Gronfa Cadernid Economaidd yn ddigon i gefnogi'r holl fusnesau ledled Cymru y mae angen y gefnogaeth arnynt. 

Mae pecynnau cymorth wedi'u rhoi ar waith ar gyfer llawer o fathau o fusnesau, ond mae’n ymddangos mai ein maes ni sydd wedi’i effeithio waethaf ac sydd wedi cael y lleiaf o gymorth.    

Rydym yn gofyn yn garedig am eich cefnogaeth i annog Llywodraeth Cymru i drafod cynllun i helpu ein diwydiant i oroesi'r pandemig hwn.

 


1.     Y cefndir

Canfu’r arolwg baromedr twristiaeth diweddaraf gan Lywodraeth Cymru fod tua chwarter y busnesau yn y sector twristiaeth yng Nghymru wedi colli dros 80 y cant o’u refeniw arferol yn 2020, a bod dros hanner y busnesau yn y sector wedi gweld eu refeniw yn gostwng mwy na 60 y cant. Gan dynnu sylw at yr heriau aruthrol y mae’r sector yn eu hwynebu, mae'r gwaith ymchwil yn nodi mai dim ond 43 y cant o fusnesau twristiaeth sy'n disgwyl goroesi y tu hwnt i’r chwe mis nesaf.

Mae Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr (CPT) Cymru, sy'n cynrychioli gweithredwyr bysiau a choetsys ledled Cymru, wedi nodi yn eu strategaeth coetsys ar gyfer Cymru:

The Covid-19 pandemic has had a devastating impact on an industry that is normally fundamentally healthy and profitable. However, with lockdown restrictions gradually easing, it is likely that trips can get underway this summer and is an opportunity for the industry to play a leading role in Wales economic recovery.

Roedd Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru yn amlygu hefyd bod 8 o bob 10 gweithredwr coetsys yn y DU wedi gweld eu trosiant yn lleihau o leiaf 50 y cant yn ystod y pandemig, a bod 2 o bob 10 gweithredwr wedi gweld trosiant yn lleihau o leiaf 90 y cant.

Cyhoeddwyd Llwybr Newydd, sef strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru, ym mis Mawrth 2021 ac mae'n nodi cynlluniau bach ar gyfer cefnogi gwahanol sectorau trafnidiaeth i gyflawni blaenoriaethau hirdymor Llywodraeth Cymru. Mae’n ymdrin â gwasanaethau bysiau, ond nid yw’n ymdrin â gwasanaethau coetsys.

Gan edrych yn benodol ar y sector twristiaeth, mae’r ddogfen Dewch i Lunio’r Dyfodol yn nodi dull Llywodraeth Cymru o ail-greu o ran yr economi. O ran masnach teithio, mae’n nodi bod effeithiau penodol, gan gynnwys:

·         Rôl ganolog atyniadau ymwelwyr yn y daith a thaith gwyliau bysiau moethus; os nad yw rhai atyniadau yn ailagor neu'n cyfyngu mynediad – megis i grwpiau – a fydd yn creu problemau i weithredwyr anrhydeddu eu teithiau / gwyliau a hysbysebir;

·         Gall materion cadwyn gyflenwi posibl ledled y sector amharu ar ail-gychwyn llwyddiannus ymhellach y busnes masnach teithio yn 2021 a thu hwn

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi busnesau ar ffurf nifer o wahanol ffrydiau cyllido ers dechrau'r pandemig. Bu amrywiaeth o feini prawf cymhwysedd ynghlwm â’r cronfeydd hyn, a fydd wedi penderfynu a fydd busnesau teithio a thwristiaeth unigol wedi gallu cael cefnogaeth. Er ei bod wedi darparu cefnogaeth sector-benodol i'r sector bysiau, ni fydd gweithredwyr coetsys nad ydynt yn cynnig gwasanaethau bysiau cyhoeddus nac yn gweithredu trafnidiaeth ysgol wedi cael dim cefnogaeth sector-benodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu pam mae o’r farn bod y gefnogaeth fusnes y mae wedi'i chynnig yn ystod y pandemig yn fwy hael na'r hyn a oedd ar gael yn Lloegr.

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grantiau ar gyfer busnesau sy'n talu ardrethi busnes. Cafodd yr holl fusnesau a oedd yn gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (hynny yw, ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000) grant o £10,000, ar gyfer hyd at ddau eiddo fesul ardal awdurdod lleol. Cafodd busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden cymwys mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 grant o £25,000.

Yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddau gam o'r Gronfa Cadernid Economaidd. Roedd y gronfa hon yn darparu cymorth i fusnesau na chawsant gefnogaeth drwy gynlluniau eraill Cymru neu Lywodraeth y DU, yn seiliedig ar nifer y bobl yr oeddent yn eu cyflogi.

Ym mis Hydref 2020, darparwyd dau grant arall drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd.  Cynorthwyodd y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y ‘cyfnod atal byr' rhwng 23 Hydref a 9 Tachwedd. Roedd yn darparu grantiau o hyd at £5,000 i fusnesau a oedd yn talu ardrethi busnes,a grantiau dewisol o hyd at £2,000 i fusnesau eraill yr effeithiwyd arnynt. I gefnogi busnesau ag adferiad economaidd a chynaliadwyedd yn y dyfodol, roedd Grantiau Datblygu Busnes o hyd at £200,000 ar gael, a neilltuwyd £20 miliwn o'r cyllid a oedd ar gael ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch.

Rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddwy rownd o gyllid drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd. Roedd un o'r rhain yn cefnogi busnesau mewn sectorau yr effeithiwyd arnynt sy'n talu ardrethi busnesa'u cadwyni cyflenwi yr oedd y cyfnod atal byr a'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith yn effeithio arnynt, gan ddarparu grantiau o hyd at £10,000. Roedd y llall yn darparu grantiau dewisol o hyd at £4,000 i fusnesau mewn sectorau yr effeithiwyd arnynt nad ydynt yn talu ardrethi busnes a’u cadwyni cyflenwi, ac yr effeithiodd y cyfyngiadau arnynt.

Rhwng mis Ionawr 2021 a mis Mawrth 2021, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddwy rownd o Grant Sector-Benodol y Gronfa Cadernid Economaidd, a gefnogodd fusnesau cymwys yn y sector twristiaeth, y sector lletygarwch a’r sector hamdden. Roedd y rownd gyntaf yn cefnogi busnesau cymwys o bob maint, gan ddarparu cefnogaeth yn ôl nifer y staff a gyflogwyd gan fusnes. Roedd yr ail rownd yn darparu cefnogaeth i fusnesau cymwys a oedd yn cyflogi o leiaf 10 aelod o staff amser llawn.

Ym mis Mawrth 2021 darparodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth ychwanegol o hyd at £5,000 i fusnesau cymwys mewn sectorau yr effeithir arnynt gan gyfyngiadau parhaus sy'n talu ardrethi busnes.

Ym mis Mai 2021, ar ôl etholiadau’r Senedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth o rhwng £2,500 a £25,000 ar gyfer busnesau y mae’r coronafeirws yn parhau i effeithio arnynt. Yn dilyn hynny, penderfynodd Llywodraeth Cymru hefyd y byddai busnesau cymwys yr effeithiwyd arnynt gan y camau i symud yn raddol i Lefel Rhybudd 1 yn cael taliad ychwanegol o rhwng £875 a £5,000, yn dibynnu ar eu maint a'u hamgylchiadau, i gwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd mis Mehefin.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Edrychodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Bumed Senedd yn ofalus ar effaith y pandemig ar y sector twristiaeth yn ei ymchwiliad i Adferiad hirdymor yn sgîl Covid-19. Daeth yr adroddiad hwn i'r casgliad bod angen teilwra cefnogaeth ar gyfer adferiad i fynd i'r afael â materion penodol, fel twristiaeth, a ddisgrifiwyd gan Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru fel sector sy'n mynd trwy 'dri gaeaf'.

Roedd y Pwyllgor yn argymell fel a ganlyn:

Argymhelliad 24: Rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu cymorth sector-benodol parhaus ar gyfer sectorau sydd wedi cael eu taro’n galed fel manwerthu nad yw’n hanfodol, gwallt a harddwch, twristiaeth a lletygarwch, y celfyddydau a diwylliant. Dylai nodi ei gynigion ar gyfer gwneud hyn yn 2021-22, gan egluro lle bydd angen cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU.

Argymhelliad 26: Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r sectorau twristiaeth a lletygarwch ar strategaeth rheoli cyrchfannau, gan gynnwys datblygu ymgyrchoedd i ddenu pobl i Gymru ar gyfer tymor 2021 mewn ffordd gynaliadwy i fusnesau a chymunedau.

4.     Cefnogaeth sector-benodol i weithredwyr coetsys yng ngweddill y DU

Mae Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr (CPT) Cymru wedi galw am i Lywodraeth Cymru gyflwyno Cronfa Adferiad Coetsys i ddarparu £7.5 miliwn fel cymorth wedi’i dargedu i weithredwyr coetsys tra bod rheolau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Mae'n awgrymu y dylai'r gronfa hon fod yn seiliedig ar y gefnogaeth sydd ar gael yn yr Alban.  Mae wedi gofyn hefyd i Lywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw rowndiau cyllido yn y dyfodol, fel y Gronfa Cadernid Economaidd, yn agored i weithredwyr coetsys.

Caiff Cronfa Gweithredwyr Coetsys yr Alban ei gweinyddu gan Visit Scotland ar ran Llywodraeth yr Alban. Sefydlwyd y Gronfa hon i helpu i gefnogi gweithredwyr teithiau coetsys tra bod cyfyngiadau ar deithio yn dal ar waith, a’u helpu i baratoi i ailgychwyn gweithrediadau pan godir y cyfyngiadau. Mae'n darparu cymorth wedi’i dargedu i gynorthwyo busnesau sy'n gweithredu'r fflyd cerbydau mwyaf newydd a mwyaf cyfeillgar i'r amgylchedd, ac mae’n cynnwys rhai meini prawf cymhwysedd eraill.

Darparodd y rhan gyntaf o'r cyllid hwn £8.3 miliwn i weithredwyr coetsys y mae twristiaeth coetsys a llogi coetsys preifat yn cyfrif am ragor na 55 y cant o gyfanswm eu trosiant. Darparodd yr ail ran £1.6 miliwn i gefnogi gweithredwyr coetsys y mae twristiaeth coetsys a llogi coetsys preifat yn cyfrif am ragor na 40 y cant o gyfanswm eu trosiant.

Mae Gogledd Iwerddon hefyd wedi darparu cefnogaeth i weithredwyr bysiau a choetsys drwy ddwy rownd o'r Cynllun Cymorth Ariannol i Weithredwyr Bysiau. Roedd y cynllun hwn yn cefnogi gweithredwyr bysiau a choetsys gyda chostau gorbenion a threuliau parhaus. Roedd yr arian ar gyfer gweithredwyr pan mae eu prif weithgaredd busnes yw cludo teithwyr a'u bagiau ac y maent wedi dioddef effaith andwyol sylweddol ar eu hincwm yn sgîl colli busnes oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws”.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.